Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 11 Mawrth 2019

Amser: 13.19 - 16.24
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5271


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Vikki Howells AC

Rhianon Passmore AC

Adam Price AC

Jenny Rathbone AC

Tystion:

Len Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Steve Curry, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Saesneg yn unig)

Caroline Bird, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Judith Paget, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Dr Paul Buss, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Claire Birchall, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Swyddfa Archwilio Cymru:

Dave Thomas

Mike Usher

Andrew Doughton

Staff y Pwyllgor:

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i'r Pwyllgor.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Nodwyd y papur.

</AI2>

<AI3>

2.1   Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (20 Chwefror 2019)

</AI3>

<AI4>

3       Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Len Richards, Prif Weithredwr, Steve Curry, Prif Swyddog Gweithredu, a Caroline Bird, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.

3.2 Cytunodd Len Richards i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·         Canlyniadau'r gwaith archwilio mewnol/clinigol diweddar a wnaed ynghylch apwyntiadau dilynol cleifion allanol;

·         Cadarnhad a fydd yr holl optometryddion a leolir yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn gallu atgyfeirio cleifion ar gyfer apwyntiad ymgynghorydd yn electronig pan gaiff y system ei chyflwyno yn ystod chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2019-20;

·         Nifer y cleifion y tu allan i'r ardal sy'n aros am atgyfeiriad claf allanol ar hyn o bryd, ynghyd â dadansoddiad o'r meysydd gwasanaeth.

 

 

 

</AI4>

<AI5>

4       Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

4.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Judith Paget, Prif Weithredwr, Dr Paul Buss, Cyfarwyddwr Meddygol, a Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru.

4.2 Cytunodd Judith Paget i anfon rhagor o wybodaeth am hyd y cyfnod roedd y system deledermatolegol wedi bod yn weithredol.

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI6>

<AI7>

6       Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

6.1 Trafododd yr aelodau'r dystiolaeth a gafwyd.

</AI7>

<AI8>

7       Gwariant ar staff asiantaeth gan GIG Cymru: Gohebiaeth y Pwyllgor

7.1 Nododd yr aelodau'r ohebiaeth. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, yn gofyn am ei farn am Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, ynghyd â'r gwariant ar staff asiantaeth a nodwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-19 y Bwrdd Iechyd, a thrafod y mater eto yn nhymor yr hydref.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>